Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cofrestru i Bleidleisio
This statement applies to the Apply for a proxy vote service which is designed to be used by all eligible individuals. This service is part of the wider GOV.UK website. There’s a separate accessibility statement for the main GOV.UK website.
Mae’r gwasanaeth Cofrestru i bleidleisio ar gael yn https://www.registertovote.service.gov.uk
Defnyddio’r gwasanaeth
Rhedir y gwasanaeth hwn gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth leol (MHCLG). Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300%, heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gyda darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Roedd testun y gwasanaeth hefyd wedi’i wneud mor syml â phosibl.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r gwasanaeth Cofrestru i Bleidleisio yn gwbl hygyrch. Gallai’r canlynol achosi problem a allai effeithio ar eich defnydd o’r wefan:
- ni chaiff defnyddwyr eu rhybuddio am hyd y cyfnod o anweithgarwch a allai achosi i ddata gael eu colli a golygu nad yw data yn cael eu cadw. Mae’r terfyn amser hwn yn fyrrach na’r cyfnod a argymhellir ar gyfer llwyddiant ar lefel AAA. Felly, ar hyn o bryd nid yw’r gwasanaeth yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.2.6: Terfynau amser
- nid yw’r testun cyswllt drwy gydol y gwasanaeth yn cyferbynnu’n ddigonol â'i gefndir er mwyn bodloni Maen Prawf Llwyddiant WCAG 1.4.6: Cyferbynnedd (Uwch). Mae’r mater hwn wedi cael ei godi gyda thîm System Ddylunio GOV.UK
Byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd y gallwn ddatrys y problemau hyn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn:
- e-bost: ierservice@elections.gov.uk
- anfon adborth ’in-journey’, sydd ar gael ar bob tudalen o’r gwasanaeth
Fel rhan o’r broses o ddarparu’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut rydych am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch – drwy’r post neu e-bost. Os bydd eu hangen mewn fformat gwahanol, fel print mawr, recordiad sain neu braille arnoch, gallwch gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os byddwch o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost i ierservice@elections.gov.uk
Gorfodi a chwynion
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os na fyddwch yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon, dylech anfon cwynion i Gomiswn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) yn lle EASS a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AAA
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae MHCLG yn adolygu ac yn iteru’r gwasanaeth hwn drwy’r amser er mwyn lliniaru effaith y terfyn amser hwn a chynnal y safonau hygyrchedd uchaf posibl.
Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 2 Mawrth 2021. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 21 Rhagfyr 2023.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2023. Cynhaliwyd y prawf gan dîm profion defnyddwyr a thechnegol y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Defnyddiodd tîm y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ddau ddull profi. Y cyntaf oedd archwiliad technegol â llaw gan ddefnyddio adnoddau awtomataidd. Roedd yr ail ddull yn cynnwys tîm penodedig o brofwyr a oedd yn ddefnyddwyr ag anableddau gwahanol a gafodd eu cynorthwyo gan amrywiaeth o dechnegau addasol.
Yna, cafodd canfyddiadau’r ddau dîm profi eu cyfuno er mwyn rhoi adborth i ni ar statws hygyrchedd y gwasanaeth Cofrestru i bleidleisio.